Gwybodaeth am fod yn aelod o’r panel ...
Am beth mae ef, ac ar gyfer pwy?
Feddylioch ’rioed sut mae cwmnïau teledu’n penderfynu pa raglenni i’w darlledu, neu ba raglenni y mae pobl yn eu gwylio a pha rai nad ydynt? Un ffordd bwysig o wneud hyn yw gofyn i bobl fel chi gymryd rhan ym mhanel swyddogol y DU ar gyfer pwyso a mesur cynulleidfaoedd teledu. Caiff y panel ei weithredu gan Kantar Media ar ran BARB, sef y cwmni sy’n llunio’r mesur cyfraddau swyddogol ar gyfer teledu yn y DU. Fe hoffem wahodd eich teulu i ymuno â’r panel.
Pam fi? Pam fy nheulu i?
Nid yw pawb yn cael bod yn aelodau o’r panel. Dim ond ychydig filoedd o gartrefi sy’n cymryd rhan ac fe gânt eu dewis yn arbennig mewn modd sy’n sicrhau bod y panel yn gwir gynrychioli pob teulu yn y DU. Felly mae’n rhaid inni gael croestoriad o’r boblogaeth, pobl o bob oedran a chefndir, yn cynnwys pobl nad ydynt yn gwylio fawr ddim ar y teledu. Trwy gymryd rhan, byddwch yn dangos beth yw arferion gwylio teledu pobl sy’n debyg i chi!
Beth yn union fydd yn digwydd?
Byddwn yn pwyso a mesur arferion gwylio teledu pawb yn eich teulu. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn cysylltu mesurydd â phob set deledu yn y cartref. Yna bydd y mesurydd yn gwybod, yn awtomatig, pan fydd y set deledu wedi’i throi ymlaen a pha sianel sy’n cael ei gwylio. Mae gan y mesurydd arddangosydd sy’n ymateb i declyn llaw a gewch chi gennym ni.
Ni fydd y mesurydd yn effeithio ar sut y byddwch yn defnyddio’ch setiau teledu presennol. Bydd pob aelod o’r teulu’n cael botwm ar y teclyn llaw Kantar Media. Wedyn byddwch cystal â gwneud hyn; gofyn i bob aelod o’ch teulu bwyso’u botwm pan fyddant yn mynd i mewn i ystafell lle mae’r set deledu ymlaen, a’i bwyso eto wrth iddynt adael yr ystafell. Os oes gennych bobl yn aros gyda chi, rydym yn gofyn ichi eu cofrestru hwy hefyd, gan ddefnyddio’r teclyn llaw unwaith eto.
Mae hi mor syml â hynny.
Cynllun gwobrau
Bydd aelodau panel BARB hefyd yn cael anogaeth bob mis er mwyn diolch iddynt am ymaelodi â’r panel. Byddwch chi’n gallu dewis sut i dderbyn eich gwobrau, trwy ddefnyddio gwefan gwobrau arbennig neu drwy ffonio ein llinell gymorth gwobrau,. Bydd anogaethau’n cael eu rhoi i bob aelod o’r cartref yn ogystal â’r teulu cyfan.
Am ragor o wybodaeth ewch at rewards website, username 171510, password browse.
Beth mae’r mesurydd yn ei wneud?
Pan fydd y set deledu wedi’i throi ymlaen, bydd y mesurydd yn casglu gwybodaeth am y sianeli sy’n cael eu gwylio. Bydd yn gwneud hyn heb darfu o gwbl ar signal y teledu. Mewn gwirionedd, mae’r mesurydd yn defnyddio sain y rhaglen i ddweud pa sianel ydyw ac mae’n gallu dweud taw systemau lloeren neu cebl sy’n cael eu defnyddio neu ‘nid yn darlledu’ hyd yn oed. Ar ben hynny, bob tro y bydd botwm yn cael ei bwyso ar y teclyn llaw Kantar Media, caiff signal ei anfon at y mesurydd, sydd wedyn yn enwi’r gwyliwr.
Felly gallwn ni weld yn union ‘pwy’ sy’n gwylio ‘beth’ ar y teledu.
Dros nos, bydd pob mesurydd yn ffonio ein swyddfa a byddwn ni’n casglu’r wybodaeth ar gyfer y diwrnod cynt. Galwad awtomatig ydyw - nid ydych chi’n gorfod gwneud dim byd, na thalu ceiniog amdani chwaith.
Fel arfer bydd y rhwydwaith ffonau symudol yn cael ei ddefnyddio i wneud yr alwad hon, felly ni fyddwch yn talu’r un geiniog. Os nad oes fawr ddim rhwydwaith ffonau symudol ar gael, yna byddwn yn defnyddio rhif rhadffôn trwy gyfrwng eich tirwifren. Beth bynnag sy’n digwydd, ni fyddwch yn talu ceiniog am y galwadau.
Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth?
Caiff yr wybodaeth ei defnyddio i ddeall sut mae pobl yn gwylio teledu – beth y maent yn ei wylio ac am faint o amser y maent yn ei wylio.
Cydgyfrinachedd
Bydd eich manylion personol yn cael eu cadw'n ddiogel gan Kantar Media sy'n gweithio ar ran BARB. Yn ogystal, gallai eich manylion gael eu trosglwyddo i asiantaeth ymchwil i'r farchnad arall, sef RSMB, sy'n gyfrifol am oruchwylio'r ymchwil ar ran BARB. Bydd eich manylion yn cael eu defnyddio mewn cydweithrediad ag ymchwil BARB yn unig. Ni fydd Kantar Media nac RSMB yn datgelu'ch hunaniaeth i unrhyw drydydd parti arall a bydd eich holl fanylion yn cael eu cadw'n gwbl gyfrinachol.
Am faint mae’r arolwg yn para?
Arolwg sy’n dal i fynd rhagddo yw hwn. Fel arfer, byddem yn disgwyl i bobl addo gwneud hyn am fis neu ddau; ond bydd llawer ohonynt yn gwneud hynny am flynyddoedd.
Beth mae gwaith gosod y mesurydd yn ei olygu?
Bydd un o’n technegwyr, sydd wedi’i hyfforddi’n bwrpasol, yn gosod y mesuryddion ar adeg sy’n gyfleus i chi. Byddwn yn gosod mesurydd ar bob un o’r setiau teledu yn eich cartref, trwy ei blygio i mewn i’r socedi yng nghefn eich set deledu. Os yw’r rhain yn cael eu defnyddio’n barod mae gennym ni nifer o daclau addasu i’w defnyddio er mwyn cysylltu â’ch teledu. Ond peidiwch â phoeni, ni fydd unrhyw beth a wnawn yn cael effaith ar y modd y mae’ch teledu’n gweithio.
Bydd rhan arall y system - y teclyn llaw Kantar Media - yn cael ei osod gan y technegydd, a fydd yn dangos ichi sut i gofrestru’r hyn y byddwch yn ei wylio. Bydd y technegydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau a fyddai gennych am offer y mesurydd ei hun.
Sut wyf i’n defnyddio’r teclyn llaw?
Mae’n hawdd defnyddio ein teclyn llaw. Fe gewch declyn llaw gennym ar gyfer pob teledu, a bydd gan bob aelod o’ch teulu eu botwm eu hunain ar bob teclyn llaw. Byddwn yn ysgrifennu enw pob person gyferbyn â rhif eu botwm er mwyn eu hatgoffa. Pan fydd aelod o’r teulu’n mynd i mewn i’r ystafell lle mae’r set deledu wedi’i throi ymlaen, rhaid iddo/iddi bwyso’r botwm. Bydd yr arddangosydd ar y mesurydd yn cadarnhau eu bod yno. Cyn gadael yr ystafell, pwyswch y botwm unwaith eto er mwyn dweud wrthym nad ydych bellach yn gwylio’r teledu. Bydd yr arddangosydd ar y mesurydd yn dangos hyn. Mae hi mor hawdd â hynny.
Beth am bobl sy’n aros gyda ni?
Fe hoffem wybod a oes gennych chi unrhyw bobl sy’n aros gyda chi, sy’n gwylio’r teledu. Gall y bobl hyn ddefnyddio’r teclyn llaw hefyd i gofrestru eu bod yn wylwyr. Bydd y technegydd yn dangos ichi sut mae gwneud hyn ac fe gewch gyfarwyddiadau syml ganddo/ganddi hefyd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Diolch ichi am ddarllen y daflen hon, a dangoswch hi i aelodau eraill o’ch teulu os gwelwch yn dda. Yn ystod y dyddiau nesaf, bydd un o’n gweithwyr yn eich ffonio er mwyn ateb unrhyw gwestiynau ychwanegol a fyddai gennych. Byddwn yn trefnu i un o’n technegwyr ddod i osod yr offer yn eich cartref ac egluro sut mae pethau’n gweithio.
Bydd gwaith gosod yr offer yn mynd rhagddo trwy gydol y flwyddyn; felly peidiwch â phoeni os na fyddwn ni’n cysylltu â chi ar unwaith. Fe gewch yr wybodaeth ddiweddaraf un gennym ni a byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn ni’n dechrau gosod offer yn eich ardal.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, mae croeso ichi ein ffonio ni ar radffon, rhif 0800 018 7013. Rydym ar agor rhwng 2pm a 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Pwy yw BARB?
Mae BARB ,sef Bwrdd y Darlledwyr dros Ymchwilio i Gynulleidfaoedd, yn llunio’r ffigurau cynulleidfaoedd teledu ar gyfer pob rhaglen ar bob un o’r sianeli teledu sydd ar gael yn y DU. Mae pob un o’r enwau blaenllaw ym myd teledu yn berchen ar BARB: y BBC, ITV, Channel 4, five a Sky.
Am ragor o wybodaeth ewch at www.barb.co.uk
Pwy yw Kantar Media?
Kantar Media yw’r cwmni ymchwil y mae BARB wedi gofyn iddo bwyso a mesur cynulleidfaoedd teledu. Kantar Media yw un o’r grwpiau mwyaf blaenllaw yn y byd, ym maes
ymchwil marchnata; ledled y byd byddwn yn darparu gwybodaeth am wylio teledu mewn mwy na 30 o wledydd.
Am ragor o wybodaeth ewch at www.kantarmedia.com
















